Owen LlewelynJONESJONES - OWEN LLEWELYN (Now), Rhagfyr 29ain 2014. Yn dawel yng Nghartref Preswyl Y Foelas, Llanrug yn 80 mlwydd oed. Mab y diweddar Llewelyn ac Annie Jones, 4 Tai Lleuar, Pontllyfni gynt, brawd annwyl Barbara, Gwyneth a'r diweddar Alwyn ac Ann, brawd yng nghyfraith ac ewythr hoffus. Angladd ddydd Mercher, Ionawr 7ed. 2015. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Brynaerau M.C. Pontllyfni am 1.00 o'r gloch y prynhawn ac i ddilyn yn gyhoeddus ym Mynwent Brynaerau. Blodau'r teulu yn unig, ond derbynnir yn ddiolchgar roddion er cof am Now at Gronfa Ambiwlans Awyr Gogledd Cymru naill ai ar y plat offrwm yn y Capel neu drwy law yr Ymgymerwr Huw John Jones, Glanrafon, Pontllyfni, Caernarfon, Gwynedd. LL54 5ER. Ffon 01286 660365
Keep me informed of updates